Prifysgol yn buddosddi £28m

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol MorgannwgFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd £13 miliwn yn cael ei wario yn Nhrefforest

Mae Prifysgol Morgannwg wedi cyhoeddi cynlluniau i wario £28 miliwn ar ehangu eu campws yng Nghaerdydd ac ar wella cyfleusterau ar gampws Trefforest.

Dywedodd llefarydd y byddai'r gwelliannau yn golygu lle ar gyfer 2,500 o fyfyrwyr ychwanegol.

Bydd £15 miliwn yn cael ei wario ar ehangu'r campws yng Nghaerdydd a chreu lle ar gyfer 1,200 o fyfyrwyr ychwanegol.

Dywedodd y brifysgol y byddai ATRiuM 2 yn croesawu'r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2014.

Bydd £13 miliwn yn cael ei wario yn Nhrefforest ar neuaddau darlithio a labordai gwyddonol.

Mae'r brifysgol yn cynnwys Prifysgol Morgannwg, Coleg Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.

'Dewr'

Y brifysgol yw'r ail fwyaf yng Nghymru.

Dywedodd Juile Lydon, yr is-ganghellor: "Mae ein penderfyniad dewr ni i ehangu yn arwydd o'n hyder y bydd myfyrwyr a'r gymuned busnes yn ein dewis ni.

"Bydd campws ATRium 2 yn darparu ar gyfer galw cynyddol cymuned fusnes Caerdydd.

"Er enghraifft, mae'r diwydiannau creadigol yn galw am raddedigion ym maes darlledu, animeiddio a'r celfyddydau perfformio.

"Bydd yr adeilad hefyd yn adlewyrchu galw cynyddol sector ariannol a phroffesiynol ardal fenter y ddinas."