Croeso adref wedi Afghanistan

Eglwys Gadeiriol Tyddewi Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae gan y gatrawd Ryddfraint Tyddewi

Bydd milwyr a swyddogion yn cynnal gorymdaith yn Nhyddewi ddydd Mercher i nodi eu dychweliad yn dilyn chwe mis yn Afghanistan.

Bydd yr 14eg Catrawd y Corfflu Signalau Brenhinol yn gorymdeithio ac yn derbyn medalau am eu gwasanaeth.

Lleolir y gatrawd ym marics Cawdor, saith milltir o Dyddewi ac mae ganddyn nhw Ryddfraint Tyddewi.

'Blaenllaw'

Dywedodd Maer Tyddewi, Christopher Taylor: "Am chwe mis roedd y gatrawd yn flaenllaw gyda gweithredoedd tactegol i gasglu gwybodaeth strategol yn ystod gaeaf pan gafwyd ymladd ffyrnig gan y gwrthryfelwyr.

"Fe fydd yn ddiwrnod pwysig iawn i'r milwyr a'u teuluoedd, a hefyd i'r gymuned sydd â chysylltiad hir gyda'r lluoedd arfog sydd wedi eu lleoli yn Sir Benfro."

Bydd yr orymdaith yn cychwyn yn Neuadd y Ddinas am 10.30am, gan orffen ym Mhalas yr Esgob wrth ochr yr Eglwys Gadeireiol lle bydd y medalau yn cael eu cyflwyno.

Ar ôl yr orymdaith, mae Cyngor Dinas Tyddewi wedi trefnu cinio ar gyfer y milwyr a'u teuluoedd yng ngwesty Grove, Tyddewi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.