Galw pump injan dân
- Cyhoeddwyd
Mae pump injan dân wedi cael eu galw am fod tân gwair wedi lledu i dŷ, garej a physt ceblau.
Am 5.10pm cafodd y gwasanaeth tân 20 galwad ffôn brys cyn cyrraedd Teras Woodman yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe.
Roedd dwy injan dân o Dreforus ac un o Abercraf, Glyn Nedd, a Phontardawe.
Hefyd cyrhaeddodd uned arbennig o Lanelli.
Ynghynt cafodd criwiau'r canolbarth a'r gorllewin eu galw oherwydd tanau ar Fynydd Baglan a Blaendulais ac yn y gogledd roedd tanau ger Deiniolen a Llangollen.
Coedwig
Roedd 25 o ddiffoddwyr yn delio â thân mewn coedwig ger Ynysybwl yn Rhondda Cynon Taf a chafodd diffoddwyr eu galw oherwydd tân yn y Coety ger Pen-y-bont.
Dywedodd Gwasanaeth Tân y De eu bod wedi delio â 102 o danau gwair rhwng 9am ddydd Sul a 9am ddydd Mawrth.
Yn y canolbarth a'r gorllewin roedd 36 rhwng 0001am ddydd Llun a 3pm brynhawn Mawrth.
Yn y gogledd roedd 32 rhwng 9am ddydd Sul a 9am ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i'r tywydd braf bara yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2012
- 6 Medi 2011
- 13 Gorffennaf 2011