Mewnblaniadau: Pwyllgor yn anghytuno
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad seneddol wedi cwestiynu penderfyniad Llywodraeth Cymru i dalu am fewnblaniadau silicon newydd i gleifion oedd wedi derbyn mewnblaniadau'r fron PIP trwy driniaeth breifat.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad y dylai'r llywodraeth dalu yn unig am dynnu mewnblaniadau a gosod rhai newydd i gleifion gwasanaeth iechyd lle oedd angen am driniaeth glinigol.
Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth San Steffan, Andrew Lansley, wedi dweud y bydd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ond yn talu am fewnblaniadau newydd os oedd angen clinigol am hynny.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin wedi cefnogi ei safbwynt ef, fel y gwnaeth yr arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad ei fod yn "cytuno y dylid dim ond talu am fewnblaniadau newydd i gleifion preifat lle bo angen clinigol am hynny".
Llawfeddyg
Mae'r gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud y dylai pob menyw sy'n bryderus fynd i siarad gyda'u llawfeddyg.
Ni chafodd mewnblaniadau PIP erioed eu defnyddio gan y GIG yng Nghymru.
Dywedodd Ms Griffiths: "Does dim tystiolaeth glinigol o hyd sy'n awgrymu y dylid tynnu mewnblaniadau PIP ymhob achos.
"Rydym yn parhau i gwrdd gydag ystod o gyflenwyr preifat i'w hatgoffa am eu dyletswydd o ofal am eu cleifion.
"Fy mhryder pennaf o hyd yw iechyd a lles y menywod a dderbyniodd y mewnblaniadau yma."
Gwahardd
Cafodd y mewnblaniadau PIP eu gwahardd ym mis Mawrth 2010 wedi i awdurdodau yn Ffrainc ganfod bod y cwmni wedi bod yn defnyddio silicon diwydiannol wrth eu gwneud.
Fis diwethaf fe wnaeth Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth San Steffan fynnu bod ei adran yn cael gwybod o flaen llaw am unrhyw bolisi iechyd cyhoeddus "gwahanol" yng Nghymru.
Dywedodd Andrew Lansley ei fod wedi clywed am bolisi Llywodraeth Cymru am dynnu a chyfnewid mewnblaniadau'r fron PIP ar y cyfryngau.
Mae tystiolaeth i awgrymu bod hyd at 7,000 o fenywod wedi derbyn mewnblaniadau PIP yn y DU cyn Ionawr 2001.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012