Arestio ar ôl damwain ffordd yng nghanol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Roedd y digwyddiad gerllaw'r orsaf ganolog ar bont Stryd Wood tua 7:00pm.Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y digwyddiad gerllaw'r orsaf ganolog ar bont Stryd Wood tua 7:00pm.

Mae gyrrwr tacsi wedi cael ei arestio ar ôl damwain ffordd yng nghanol Caerdydd.

Credir bod hyd at saith o bobl wedi eu hanafu yn y digwyddiad nos Lun.

Yn ôl yr heddlu, mae gan rai o'r bobl anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad gerllaw Gorsaf Ganolog Caerdydd ar bont Stryd Wood tua 7pm.

Ychwanegodd yr heddlu nad yw eu bywydau yn y fantol.

Cafodd y bont ger Stadiwm y Mileniwm ei chau i draffig nos Lun wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad.

Roedd modd i gerddwyr basio heibio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol