Beachy Head: Enwi'r ddau fu farw

Beachy Head Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe gafodd cyrff y ddau eu darganfod ar Fawrth 21

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau'r ddau gafodd eu darganfod yn farw ar waelod clogwyn Beachy Head yn Sussex yr wythnos diwethaf.

Cafwyd hyd i gyrff Elizabeth Gosling, 81 oed, a'i mab, Christopher Gosling, 58 oed, o Gaerdydd ddydd Mercher, Mawrth 21.

Roedd Mr Gosling wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gael delweddau anweddus yn ei feddiant ddau ddiwrnod cyn i'w gorff gael ei ddarganfod.

Dywedodd Heddlu Swydd Sussex nad oedd eu marwolaethau yn amheus.

Maes parcio

Dangosodd archwiliadau post mortem fod y ddau wedi marw o anafiadau lluosog.

Mae Heddlu Sussex yn credu bod y fam a'r mab o ardal Y Waun Ddyfal yn y brifddinas wedi aros yn ardal Beachy Head.

Cyrhaeddodd y ddau Beachy Head mewn car Vauxhall Vectra du tua 8:30 yn y bore a chafodd y car ei ddarganfod mewn maes parcio uwchben y clogwyni.

Cafwyd hyd i gorff Mr Gosling tua 11.15 yr un bore gan Wylwyr y Glannau a daethpwyd o hyd i'w fam wrth baratoi i gasglu corff y dyn.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ystyried y mater.

Mae Heddlu Sussex yn apelio am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un a welodd y dyn a'r fenyw cyn iddyn nhw farw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Sussex ar 101, gan ddyfynnu rhif 589 o 21/03.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.