Hebog tramor yn dodwy ŵy ar orsaf heddlu Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae'r adar wedi bod yn nythu ar do Gorsaf Heddlu Wrecsam am bedair blynedd
Mae adarwyr yn Wrecsam yn barod i wylio pâr o hebogau tramor sydd wedi dodwy ŵy.
Mae'r adar yn nythu ar ben gorsaf heddlu'r dref.
Mae staff a gwirfoddolwyr RSPB Cymru yn cadw golwg ar y nyth ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr adar.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i'r RSPB wneud hyn.
Y llynedd, cafodd pump ŵy eu dodwy ac mi wnaeth tri ohonyn nhw ddeor.
Mae disgwyl i'r ŵy diweddaraf ddeor mewn tua 30 diwrnod.
"Fe ddychwelodd yr hebogau i'w safle nythu ar ddechrau'r mis," meddai Julie Rogers o RSPB Cymru.
"Y llynedd fe wnaeth pump ŵy ddodwy ac rydym yn gobeithio bydd y teulu'r un mor llwyddiannus eleni," ychwanegodd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol