Heddlu'n dal i ymchwilio wedi i wyth gael eu hanafu
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain ger yr Orsaf Ganolog tua 7pm.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain yng nghanol Caerdydd.
Aed ag wyth dyn o Gaerdydd i'r ysbyty ar ôl damwain yn Stryd Wood ger Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth.
Roedd yr wyth yn cerdded cyn i dacsi eu taro.
Mae dyn 35 oed o ardal Grangetown yn parhau yn yr ysbyty ar ôl diodde' llosgiadau.
Cafodd gyrrwr tacsi 28 oed ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o ymgais i lofruddio.
Mae'r heddlu'n archwilio lluniau teledu cylch cyfyng ac yn gofyn am luniau oddi wrth unrhyw fusnes neu gartref lleol.
Cafodd y bont ger Stadiwm y Mileniwm ei chau i draffig nos Lun wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yng Nghaerdydd ar 029 2052 7420 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol