Ysgol â thri disgybl i gau yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Fe fydd un o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin yn cau yn yr haf.
Ar ddiwedd tymor yr haf fydd 'na ddim plant yn Ysgol Gynradd Cwmifor ger Llandeilo.
Tri o ddisgyblion sydd ar gofrestr yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn addysgol yn hydref 2011.
Cyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi gwneud y penderfyniad i gau'r ysgol.
Mae'r penderfyniad yn dod wedi i adran addysg y cyngor gynnal ymgynghoriad gyda'r gymuned leol.
Mae teuluoedd nawr yn cael opsiwn i gofrestru plant yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant neu Ysgol Llandeilo.
"Rydym yn cydnabod bod hwn yn newyddion trist iawn i'r gymuned a bod 'na berthynas hir a hapus wedi bod gyda'r ysgol," meddai Cyfarwyddwr Addysg y Cyngor, Rob Sully.
"Ond mae nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf ac o safbwynt addysgol mae wedi bod yn anodd cyflwyno'r amrywiaeth llawn o brofiadau addysgol a chymdeithasol i'r disgyblion.
"Rydym wedi gorfod ystyried felly, budd hirdymor y disgyblion.
"Rydym wedi ymgynghori gyda'r gymuned a does neb wedi gwrthwynebu'r cynlluniau i gau."
Straeon perthnasol
- 12 Hydref 2005
- 12 Medi 2005
- 18 Hydref 2004