Dod o hyd i gorff dyn 78 oed o ardal Machynlleth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod corff dyn wedi ei ddarganfod ddydd Llun.

Roedd yr heddlu yn chwilio am ddyn 78 oed o ardal Machynlleth ers Mawrth 12.

"Gall yr heddlu gadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod," meddai llefarydd.

Dywedodd yr heddlu fod y corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol.

"Mae teulu Mr John William Davies wedi eu hysbysu.

"Dymuna teulu Mr Davies ddiolch i'r cyfryngau am eu help wrth i'r heddlu chwilio amdano," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol