Hwb i beirianneg sifil yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Arwyddion yn Y RhylFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai arwyddion eisoes i'w gweld mewn rhai safleoedd, fel rhan o gynllun peilot

Mae ymgyrch newydd yn gobeithio rhoi hwb i beirianneg sifil yng Nghymru ac annog mwy o bobl i weithio yn y maes.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio gan Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths AC, yn ystod ymweliad â chynllun amddiffyn arfordirol Gorllewin Rhyl ddydd Iau.

Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) sy'n gyfrifol am yr ymgyrch, a'r nod yw rhoi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd am waith peirianwyr sifil trwy ddefnyddio baneri ac arwyddion ar safleoedd yn ystod y broses adeiladu.

Mae'r baneri a'r arwyddion yn cynnwys cod-bar arbennig sy'n cysylltu i dudalennau ar wefan y Sefydliad, sy'n egluro beth yw peirianneg sifil a beth mae peirianwyr sifil yn ei wneud.

Mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau i wybodaeth am sut i ddilyn gyrfa fel peiriannydd sifil.

Fel rhan o gynllun peilot, roedd nifer o safleoedd ar draws Cymru eisoes wedi bod yn arddangos y baneri a'r arwyddion hyn - o gynlluniau amddiffyn arfordirol yng ngogledd Cymru, i lwybr beicio yn ne ddwyrain Cymru, prosiect adfer cwymp tir yng ngorllewin Cymru a chynllun priffyrdd yn Abertawe.

'Problem gynyddol'

Dywedodd Prif Weithredwr ICE Cymru, Keith Jones: "Mae'r ymgyrch yn hybu cyfraniad peirianneg sifil i gymdeithas ac rydym yn falch o fod wedi datblygu'r ymgyrch hon yng Nghymru."

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ger safle'r cynllun amddiffyn arfordirol yn Y Rhyl, sydd wedi costio £8.25m ac yn mynd i leihau'r perygl o lifogydd i dros ddwy fil o gartrefi a dros 500 o fusnesau.

Yn ôl y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, mae llifogydd ac erydiad arfordirol yn broblem gynyddol yng Nghymru a bydd angen rhagor o brosiectau tebyg i'r un yn Y Rhyl.

"Byddwn angen rhagor o beirianwyr sifil medrus yng Nghymru i geisio datblygu'r gwaith pwysig hwn. Dyna pam rwy'n hapus i gefnogi'r ymgyrch hon gan yr ICE i hybu peirianneg fel dewis gyrfa ac i danlinellu sut mae gwaith fel y cynllun amddiffyn arfordirol yn Y Rhyl yn dangos pa mor hanfodol yw peirianwyr i ddyfodol Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol