£3m i 'atal carcharorion y Parc rhag aildroseddu'
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect sy'n anelu at atal carcharorion presennol a newydd eu rhyddhau rhag aildroseddu wedi derbyn grant o fwy na £3 miliwn oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr.
Dyfarnwyd £3,137,466 i Garchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i redeg prosiect Invisible Walls.
Dros y pedair blynedd nesaf bydd y prosiect yn cydweithio â throseddwyr, eu teuluoedd a'u plant.
Y nod fydd rhoi cyngor am ddyled deuluol, hyfforddiant ac addysg, cyngor a chefnogaeth am dai, iechyd a ffitrwydd corfforol a chefnogaeth wrth chwilio a chael swydd.
Prosiect peilot
Daw'r prosiect hwn yn sgil prosiect peilot llwyddiannus gafodd bron £50,000 oddi wrth y Gronfa Loteri Fawr yn 2010.
Bydd y grant yn ariannu cynllun datblygu a phartneriaethau sector gwirfoddol, statudol a phreifat.
Dywedodd Corin Morgan-Armstrong, uwchreolwr yn y carchar: "Mae gan Garchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc y cyfle i roi ar waith y prosiect cyffrous ac unigryw hwn."
"Bydd Invisible Walls yn ceisio cefnogi a hybu carcharorion drwy ein Huned Ymyraethau Teuluol, yr uned gyntaf o'r fath a'r unig un wedi'i theilwra ar gyfer troseddwyr gwryw.
'Lleihau aildroseddu'
"Bydd y troseddwyr yn gweithio'n unigol ac mewn grwpiau, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y sgiliau y mae eu hangen i gynnal perthnasau teuluol iach.
"Mae tystiolaeth gref yn awgrymu manteision hybu'r sgiliau hyn o ran lleihau aildroseddu, yn enwedig pan fo'n gweithio gyda'r teulu cyfan a nid y troseddwr yn y carchar yn unig."
Fel rhan o'r ariannu, mae Barnardo's Cymru yn cyfrannu at y prosiect.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2012
- 27 Medi 2011
- 14 Rhagfyr 2010