Adfer cloch eglwys er cof am wraig un o'r plwyfolion
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Esgob Llanelwy fendithio cloch eglwys ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £6,000.
Cafwyd rhodd er cof am wraig un o'r aelodau Eglwys Sant Cystennin yn Llangystennin ger Mochdre, Conwy.
Bu farw Patricia Howell ym mis Ebrill 2011 ar ôl iddi syrthio pan oedd hi'n cerdded, ac roedd ei gŵr Gary eisiau adfer y gloch er cof amdani.
Mae cloch Eglwys Sant Cystennin yn dyddio o 1743.
Luke Ashton - gwneuthurwr cylchau enwog o Wigan - wnaeth ei llunio.
Yn ystod yr ailwampio, cafodd y gloch ei thynnu o'i lle, ei glanhau a'i hailosod gyda rhaff newydd.
'Mynedfa newydd'
Mae'n golygu y bydd y gloch i'w chlywed unwaith eto yn Llangystennin a Mochdre.
Wrth gyfeirio at y gwaith adfer, dywedodd Mr Howell, sy'n byw ym Mochdre, bod popeth yn edrych yn dda yn yr eglwys.
"Mae 'na fynedfa newydd, y gloch wedi ei hadfer a'r fynwent wedi ei thacluso - mae'r cyfan yn edrych yn wych ar hyn o bryd.
"Roedd Pat a minnau wedi bwriadu gadael arian yn ein hewyllys i'r eglwys i adfer y gloch, ac rydw i'n falch fod hynny wedi digwydd yn awr."
Roedd y gwasanaeth bendithio o dan arweiniad Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, yn yr eglwys ddydd Sadwrn.
"Mae clychau yn galw'r plwyfolion i addoli am filoedd o flynyddoedd erbyn hyn," meddai'r esgob.
"Mae'n wych gweld bod y traddodiad yma yn parhau.
"Dwi'n gobeithio y bydd y trigolion lleol yn croesawu'r sain cyfarwydd."
Fel rhan o'r gwasanaeth fe wnaeth Amgueddfa Llandudno ddod a'r gloch gyntaf i'w gosod yn yr eglwys i'w harddangos.
Credir nad oes cloch wedi bod yn yr eglwys ers yr 1880au.
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2010
- 2 Mawrth 2011