Arestio dyn wedi lladrad o siop nwyddau babi

Mae dyn wedi cael ei arestio wedi lladrad o siop nwyddau babi ar Ynys Môn dros y penwythnos.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod dyn 25 oed yn cael ei holi ynglŷn â'r digwyddiad yn siop Bocs Babi yn Y Fali.

Cafodd gwerth dros £18,000 ei ddwyn o'r safle rhwng nos Sadwrn a bore Sul.

Yn ôl yr heddlu, dyw'r dyn sydd wedi cael ei arestio ddim o ogledd Cymru.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.