Ffrwydrad yn achosi anafiadau yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid cludo dyn yn ei bumdegau i'r ysbyty wedi ffrwydrad mewn fflat yng Nghaerdydd.
Gadawodd pobl fflatiau a thai cyfagos wedi'r digwyddiad yn Caerleon Close, Llaneirwg, ychydig wedi 12:30pm ddydd Mercher.
Mae'r dyn yn cael triniaeth am fân losgiadau yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Cafodd pum criw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hanfon i'r digwyddiad.
Yn ôl y gwasanaeth, mae'r nwy wedi cael ei ynysu ac mae 'na swyddogion ar y safle.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod dau ambiwlans wedi eu galw yn ogystal â cherbyd ymateb cyflym.
Roedd y ffrwydrad mewn fflat ar lawr cynta' bloc deulawr o eiddo'r cyngor.
Mae'r bwrdd trydan a chynrychiolwyr y cyngor ar y safle ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol