Tanwydd: 'Dim angen mynd i banig'

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf betrol
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na gynnydd wedi bod yn y galw am danwydd mewn rhai ardaloedd dros y dyddiau diwethaf

Mae'n ymddangos bod cyflenwadau tanwydd yn mynd yn brin mewn rhai gorsafoedd yng Nghymru, wrth i'r galw am danwydd gynyddu.

Credir bod mwy o bobl na'r arfer yn llenwi eu tanciau gyda sôn am streic danwydd bosib ar y gorwel.

Dywedodd cwmni Esso fod 'na gynnydd mewn galw am danwydd, tra bod Shell yn dweud fod eu gorsafoedd "yn brysur fel arfer".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Esso: "Gallai rhai gorsafoedd fod heb un neu ddau fath o danwydd."

Yn ôl Suzy Verano, o garej Shell ym Metws-y-Coed, roedd hi wedi bod yn hynod o brysur yno ddydd Llun a dydd Mawrth:

"Wnaethon ni redeg allan ddoe a 'da ni 'di rhedeg allan bore 'ma hefyd. Dydy pobl ddim yn hapus am y peth ond mae pawb yn llenwi eu tanciau.

"Petasai pobl ddim yn llenwi eu tanciau, mi fydda' yna ddigon i fynd o gwmpas."

Yn y cyfamser, mae llywodraeth y DU wedi annog pobl i "baratoi'n gall" rhag ofn y bydd gyrwyr tanceri tanwydd yn penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol.

Mae gyrwyr undeb Unite, sy'n cyflenwi 90% o orsafoedd y DU, wedi pleidleisio o blaid streic.

'Paratoi'n gall'

Mae Llywodraeth y DU yn gwadu eu bod yn achosi panig, gan fynnu eu bod hi'n gwbl briodol i rybuddio gyrwyr i ystyried cadw can o betrol wrth gefn.

Ddydd Mercher, cynhaliodd rhai o weinidogion Llywodraeth Prydain gyfarfod COBRA i drafod streic bosib.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: "Does neb eisiau streic a does 'na ddim dyddiad wedi'i bennu eto, ond mae'n rhaid i'r llywodraeth baratoi am y posibilrwydd o streic. Ein prif nod yw lleihau'r effaith i'r cyhoedd."

Fe gytunon nhw y dylai gyrwyr baratoi'n gall ond nad oedd angen mynd i banig, dim ond sicrhau bod y tanc yn cael ei lenwi'n rheolaidd.

"Does dim prinder tanwydd ar hyn o bryd ac mae gorsafoedd yn cael eu hailgyflenwi."

'Peryglus'

Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydweithio gyda'r DU a llywodraethau datganoledig eraill ar gynlluniau eraill i leihau'r effaith y gallai unrhyw weithredu ei gael ar Gymru.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill yng Nghymru ar gynlluniau wrth gefn."

Mae'r corff sy'n cynrychioli'r diwydiant manwerthu moduro yn dweud bydd 'na brinder os fydd pobl yn prynu mwy o danwydd nag sydd raid.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi beirniadu sylwadau'r llywodraeth ac yn rhybuddio fod rhai caniau tanwydd yn gallu bod yn beryglus.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Frigâd Dân: "Mae 'na beryg go iawn y bydd pobl yn dechrau stori tanwydd mewn ffyrdd amhriodol os bydd y llywodraeth yn annog pobl i brynu mewn panig a chadw tanwydd wrth gefn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol