Carchar am anafu bwriadol
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei garcharu am chwe blynedd am yrru car at frawd ei gariad.
Fe wnaeth Damien Smith, 26 oed o Gaer, achosi anafiadau difrifol i Lee Stanley ar ôl ffrae ym Mwcle, Sir y Fflint y llynedd.
Cafwyd Smith, gynt o Goed Llai ger yr Wyddgrug, yn euog o anafu bwriadol.
Dywedodd y barnwr Niclas Parry yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn eistedd yng Nghaer y gallai Smith fod wedi lladd Mr Stanley.
Yn ôl un tyst roedd Smith yn chwerthin wedi'r digwyddiad.
Cafodd Mr Stanley ei daro gan y car Ford Mondeo y tu allan i dŷ ei rieni ym Mwcle.
Dywedodd Simon Rogers ar ran yr erlyniad fod nifer o asennau Mr Stanley wedi eu torri ac roedd ei ysgyfaint wedi ei gleisio.
Cafodd 18 o bwythau i'w ben ac roedd wedi anafu ei wddw.
Roedd Smith wedi gwadu'r cyhuddiad gan ddweud fod Mr Stanley wedi neidio ar y car gan geisio ei atal rhag gadael.
Arian
Clywodd y llys fod yna ddrwg deimlad dros ddyled o £100.
Roedd honiad bod Mr Stanley neu ei gariad, wedi rhoi'r arian i Smith neu gariad Smith.
"Does yna ddim amheuaeth, fe allwch fod wedi lladd Mr Stanley," meddai'r barnwr Niclas Parry.
"Roedd hwn yn orymateb. Roeddech wedi colli eich tymer a bob rheolaeth,"
Yn ogystal â charcharu Smith am chwe blynedd cafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.