Technoleg: Galw am syniadau
- Cyhoeddwyd

Mae un o gyrff mwyaf blaenllaw technoleg yn y DU - NESTA - wedi ymuno gyda Llywodraeth Cymru i alw am syniadau er mwyn datblygu sector cyfryngau lleol iawn yng Nghymru.
Mae'r alwad yn rhan o gynllun gwerth £1 miliwn gan NESTA, neu'r National Endowment for Science, Technology and the Arts, dan yr enw 'Destination Local'.
Ei nod yw canfod technolegau, modelau busnes a chyfleoedd cynnwys ar gyfer sector cyfryngau lleol iawn yn y DU.
Bydd arian ar gael - hyd at £50,000 - i gynlluniau allai gynnig y genhedlaeth nesaf o wasanaethau lleol, ac fe fydd syniadau llwyddiannus o Gymru hefyd yn derbyn arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.
'Posibiliadau cyffrous'
Dywedodd Jon Kingsbury, Cyfarwyddwr Rhaglenni NESTA: "Mae'r mabwysiadu cynyddol o dechnolegau newydd ar ffonau symudol yn cynnig posibiliadau cyffrous er mwyn delifro gwasanaethau lleol iawn i gynulleidfaoedd cyfyngedig.
"Bydd 'Destination Local' yn profi'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau lleol iawn mewn ymgais i ddeall os fydd y technolegau yma'n medru delifro modelau busnes cynaliadwy sy'n gwasanaethu'r gymuned leol a chynnig budd economaidd."
Mae Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, yn cefnogi'r fenter, a dywedodd:
"Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i unigolion a mentrau o Gymru i gael arian ac i wneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad sector cyfryngau lleol iawn.
"Mae'n sector sy'n tyfu gyda'r potensial am dwf pellach gan gynnig cyfleoedd busnes wrth ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i gymunedau lleol."
Mae adroddiad gan NESTA yn nodi'r gwerth sylweddol sydd gan wasanaethau lleol iawn eisoes, megis gwefannau cymunedol, blogiau a thudalennau Facebook i gymunedau sy'n darparu newyddion ar lefel llawer mwy lleol na'r cyfryngau traddodiadol.
Ond mae nifer o heriau - rhai ariannol yn bennaf - yn wynebu pobl sy'n ceisio sefydlu gwasanaethau newydd o'r fath, a nod Destination Local yw ceisio ateb rhai o'r heriau yna.
Straeon perthnasol
- 10 Hydref 2011
- 4 Ionawr 2012
- 20 Mawrth 2012