Llai o feichiogrwydd ymysg yr ifanc

  • Cyhoeddwyd
pregnantFfynhonnell y llun, SPL

Mae beichiogrwydd ymysg merched dan 18 oed ar ei lefel isaf ers 18 mlynedd yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Yn 2010, 3.77% o ferched dan 18 oed ddaeth yn feichiog yng Nghymru o'i gymharu â 4.01% yn 2009. Dyma'r raddfa isaf ers 1992.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd eu bod yn croesawu'r gostyngiad, ond eu bod yn bryderus am y nifer uchel o erthyliadau ymysg merched yn eu harddegau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ffigyrau'n adlewyrchu gwaith sydd wedi ei wneud i hybu iechyd rhyw.

Helen Rogers yw cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru, a dywedodd bod Cymru ar un tro wedi cael un o'r graddfeydd uchaf yn Ewrop am feichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau.

Roedd gostyngiad i'w groesawu felly, meddai, ond roedd angen edrych ar y ffigyrau mewn cyd-destun, gyda'r nifer o erthyliadau ar gynnydd yn y grŵp oedran dan sylw.

'Amser ac ymdrech'

Mae ystadegau'r llywodraeth ar gyfer 2010 yn dangos bod 45% o'r beichiogiadau ymysg y rhai dan 18 oed wedi cael eu herthylu, o'i gymharu â 20% i'r rhai o bob oed.

Dywedodd Ms Rogers: "Mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful, lle mae'r raddfa beichiogrwydd wedi gostwng yn sylweddol iawn, mae llawer o waith wedi cael ei wneud.

"Mae'n fater sy'n uchel ar agenda pawb, ac yn amlwg mae llawer o amser ac ymdrech wedi mynd tuag at hynny.

"Ond un gair o rybudd yw bod y raddfa erthyliadau ymysg yr ifanc yn uchel iawn.

"Er nad wyf yn dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y ffigyrau beichiogrwydd ar erthylu, mae'n bryder i mi y gallai bod erthyliadau yn cael eu defnyddio fel ffurf o atal cenhedlu.

"Rhaid i ni drosglwyddo'r neges y dylai pobl yn eu harddegau gael rhyw yn ddiogel gan ein bod hefyd wedi gweld cynnydd mewn clefydau rhyw."

Addysg

Ychwanegodd bod addysgu pobl yn eu harddegau yn allweddol er mwyn sicrhau bod gan ferched a bechgyn agwedd iachach tuag at ryw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu adeiladu ar y gostyngiad er mwyn sicrhau bod y raddfa yn parhau i fynd i lawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod yn disgwyl i'r ffigyrau newid rhywfaint o flwyddyn i flwyddyn, mae'n ymddangos bod y duedd gyffredinol ar i lawr.

"Mae'r gostyngiad yn adlewyrchu ein dull integredig o ddelio gydag iechyd rhyw yng Nghymru drwy'r cynllun gweithredu 2010-2015.

"Mae'r cynllun yn hybu iechyd rhyw a dewisiadau iach i ferched a menywod sy'n cynnwys addysg rhyw a pherthynas, rhyw diogel a gwasanaethau atal cenhedlu.

"Er mwyn parhau gyda'r trend, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflwyno rhaglen beichiogrwydd ifanc.

"Mae gan hwn y potensial i gael effaith sylweddol ar raddfeydd beichiogrwydd ymysg yr arddegau yn y dyfodol gyda gostyngiad posib o 10% arall drwy hybu dulliau atal cenhedlu tymor hir a gwella mynediad at wasanaethau a chefnogaeth o bobl ifanc."

Daw ffigyrau Llywodraeth Cymru wedi i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi y mis diwethaf bod y raddfa beichiogrwydd ymysg yr arddegau ar ei lefel isaf ers 1969.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol