Llinell gyswllt y Gymraeg yn dod i ben

telephone Image copyright bbc
Image caption Ers ei sefydlu mae'r llinell gyswllt wedi derbyn tua 80,000 o alwadau

Fe fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael ei ddiddymu ddydd Gwener wedi bron ugain mlynedd, ond mae pryder y bydd un agwedd o'i waith yn diflannu'n llwyr.

Fe fydd dyletswyddau'r Bwrdd yn cael eu trosglwyddo a'u rhannu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Iaith newydd, Meri Huws.

Ond mae elusennau, mudiadau a'r byd busnes yn poeni gan y bydd gwasanaeth y llinell gyswllt, sydd wedi bod yn cynnig cyngor a gwasanaeth prawf-ddarllen a chyfieithu deunyddiau megis arwyddion a phytiau byr eraill yn dod i ben, a bod hynny'n gam yn ôl.

Fydd y gwasanaeth ddim ar gael ar ei ffurf bresennol i'r 350 o gwmnïau preifat, 100 o elusennau a 60 o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud defnydd o'r gwasanaeth.

'Amhrisiadwy'

Roedd nifer yn gresynu am hynny, gan gynnwys David Jones o Goleg Powys yn Y Drenewydd a ddywedodd:

"Fel coleg ry'n ni wedi gwneud defnydd helaeth iawn o'r llinell gyswllt. Nifer fach iawn ohonom ni sy'n Gymry Cymraeg yma, felly pan fydda i i ffwrdd a bod angen cyfieithu rhywbeth byr ar fyr rybudd, mae'r llinell gyswllt wedi bod o ddefnydd mawr i ni."

Richard Houdemont yw cyfarwyddwr Cymru i'r Sefydliad Siartredig dros Farchnata, ac mae'n credu bod y llinell yn "amhrisiadwy" i fusnesau.

"Mae'n angenrheidiol i helpu busnesau Cymru, ac mae pob busnes yn chwilio am arwahanrwydd - rhywbeth sy'n helpu nhw i sefyll mas - ac rwy'n credu bod defnyddio'r Gymraeg mewn darnau bach hyd yn oed yn help mawr yn yr achos yma."

'Coblyn o wahaniaeth'

Menter Môn sydd wedi bod yn gwneud y gwaith trwy gytundeb gyda'r Bwrdd, a dywedodd eu prif weithredwr, Gerallt Jones:

"Ers sefydlu'r llinell yn wreiddiol mae yna 80,000 o alwadau wedi dod i mewn. Mae hynny'n cynnwys 25% o'r sector cyhoeddus, 33% o'r sector gwirfoddol, ond y defnyddwyr mwyaf yw'r sector preifat ar 44%.

"Mae'r llinell yn golygu bod y Gymraeg yn weladwy iawn yn ein cymdeithas ni ac yn ein heconomi ni.

"Beth sy'n digwydd yn aml yw bod cyfieithiadau byr yn cymryd amser yn y sector cyhoeddus, ac mewn rhai cynghorau mae'r gwasanaeth yma yn gwneud coblyn o wahaniaeth.

"Does dim gorfodaeth ar y sectorau preifat a gwirfoddol i gynnig pethau yn Gymraeg, ac o ran meithrin ewyllys da a datblygu perthynas mae'r ffaith bod y gwasanaeth yma wedi bod ar gael yn arfogi llawer o fusnesau i gynnig gwasanaeth i'w cwsmeriaid sy'n cynnwys y Gymraeg."

Yn dilyn diddymu'r llinell gyswllt, bwriad Menter Môn yw parhau i gynnig y gwasanaeth ar sail fasnachol. Maen nhw'n gobeithio y bydd cwmnïau mawr fel Morrisons a Marks and Spencer - sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn y gorffennol - yn barod i dalu am yr un gwasanaeth yn y dyfodol.

Doedd neb o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru na swyddfa'r Comisiynydd Iaith mewn sefyllfa i wneud unrhyw sylw ar y mater ar hyn o bryd - fe wnaeth y BBC gais i'r tri i wneud hynny.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.