Apêl wedi damwain farwol yn Sir Gaerfyrddin

Mae menyw oedrannus wedi marw mewn damwain rhwng dau gerbyd yn Sir Gaerfyrddin.

Bu gwrthdrawiad rhwng dau gar Ford Fiesta ar yr A484 ym mhentref Pwll ger Llanelli amser cinio ddydd Mercher.

Bu farw teithwraig oedrannus oedd yn y Fiesta glas, ac aed â gyrrwr benywaidd yr un car i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Cafodd dyn mewn Fiesta lliw arian fân anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y ddamwain tua 12.10pm gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.