£11.5m i rwydwaith ffyrdd lleol
- Cyhoeddwyd

Mae £11.5 miliwn ar gael i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â gwelliannau i'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn 2012-13, mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi.
Mae ffordd gyswllt i Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn cael dyraniad o £7,274,000, ffordd gyswllt i Stad Ddiwydiannol Port Talbot yn cael £850,000 a ffyrdd ger Ysbyty Ystrad Fawr, Caerffili yn cael £99,000.
Yn ystod 2011-12, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran olaf ffordd mynediad Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
Mae'r ffordd i fod i gael ei chwblhau eleni neu'r flwyddyn nesaf ac felly hefyd y gwelliant i briffordd Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach.
'Sbarduno'r economi'
Dywedodd Carl Sargeant: "Mae'n bwysig bod y cynlluniau hyn yn symud yn eu blaenau ac yn cael eu cwblhau er mwyn cynorthwyo gyda'n hamcanion strategol eangach, sef adfywio economaidd trwy sbarduno'r economi leol.
"Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau dan sylw i wneud y mwyaf o bosibiliadau ariannu eraill er mwyn cynyddu'r buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud eisoes i'r cynlluniau dan sylw, ac i sicrhau ein bod yn cael yr atebion sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian".
Straeon perthnasol
- 6 Mawrth 2012
- 28 Gorffennaf 2011
- 12 Awst 2011
- 25 Tachwedd 2009
- 16 Gorffennaf 2009
- 20 Medi 2007