Nifer y drudwyod yn gostwng yng ngerddi Cymru
- Cyhoeddwyd

Yn ôl arolwg mae'r nifer y drudwyod ymfudol ar ei isaf yng Nghymru mewn 30 mlynedd.
Roedd bron i 30,000 o bobl yng Nghymru wedi cymryd rhan yn arolwg blynyddol yr RSPB, Big Garden Birdwatch, ym mis Ionawr.
Pob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cyfri'r adar sydd yn ymweld â'u gerddi ac yn cofnodi'r canlyniadau ar gyfer yr RSPB.
Mae nifer y drudwyod preswyl hefyd wedi bod yn gostwng am yr 16 mlynedd diwethaf ac wedi lleihau dros 60% yn ystod yr un cyfnod.
Yn yr arolwg cyntaf yn 1979, y nifer cyfartalog o ddrudwyod i'w gweld mewn gerddi yng Nghymru oedd 15.
Eleni dim ond pedwar oedd i'w gweld, ar gyfartaledd.
Roedd drudwyod i'w gweld mewn llai na hanner o erddi Cymru.
'Dal i ostwng'
Dywedodd Uwch Wyddonydd Cadwraeth yr RSPB, Ian Johnstone: "Er eu bod yn adar mor gyfarwydd, a dal i'w gweld yn eang, mae nifer drudwyod wedi bod yn cwympo'n gyson ers 1979.
"Rydym wedi bod yn monitro'r dirywiad ac yn annog pobl i helpu drudwyod.
"Ond byddwn hefyd yn cynnal ymchwil wyddonol i'r union resymau dros y dirywiad.
"Byddai'n drasiedi petai'r niferoedd yn parhau i ostwng a byddwn yn gwneud popeth y gallwn er mwyn atal hyn rhag digwydd."
Yn ogystal ag ymddangos yng ngerddi pobl mae drudwyod hefyd yn enwog am y sioe awyr maen nhw'n ei greu yn y gaeaf wrth iddyn nhw gasglu mewn grwpiau a hedfan mewn patrymau cyn clwydo am y noson.
Roedd newyddion da i adar eraill yn arolwg yr RSPB eleni.
Mae nifer y titw tomos las wedi codi 87% ers yr arolwg cyntaf ac mae nifer y peneurynod hefyd wedi bod yn codi'n gyson.
Straeon perthnasol
- 24 Ionawr 2004
- 14 Hydref 2006