Rheithgor achos llofruddiaeth yn ystyried
- Cyhoeddwyd

Mae rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos dyn ar gyhuddiad o lofruddio pensiynwraig yn ei chartref yn Arberth yn Sir Benfro.
Mae John Mason o bentref Llandysilio yn Sir Benfro wedi gwadu iddo guro Angelika Dries Jenkins i farwolaeth ym Mehefin y llynedd cyn dwyn ei char a defnyddio ei cherdyn banc yn Hwlffordd a Hendy-gwyn ar Daf.
Fe wnaeth y barnwr grynhoi'r achos ddydd Iau.
Ddydd Mercher cafwyd areithiau cloi yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y rheithgor fod y dystiolaeth yn erbyn y dyn 55 oed "yn gwbl gadarn."
Yn ei araith gloi dywedodd yr erlynydd, Patrick Harrington QC, fod y dystiolaeth DNA yn erbyn John Mason yn glir.
Dim ond un mewn biliwn, meddai, oedd y siawns nad DNA'r diffynnydd oedd ar y siwmper ag olion gwaed y cafwyd hyd iddi mewn bin sbwriel yn Hwlffordd.
Roedd DNA Ms Dries-Jenkins hefyd ar y siwmper.
"Hon oedd siwmper y llofrudd, a'r llofrudd oedd John Mason," meddai Mr Harrington.
Heb brofi
Cafodd hi ei llofruddio yn ei chartref ar Fehefin 1, 2011, ac roedd anafiadau difrifol i'w phen.
Yn ôl Chris Clee QC ar ran yr amddiffyn, nid oedd yr erlyniad wedi profi ei bod hi wedi ei lladd er mwyn cael arian i dalu am briodas John Mason a Denise Evans.
Gofynnodd a fyddai Mr Mason wedi cerdded drwy ganol Arberth ar fore o haf cyn mynd i dŷ Angelika Dries-Jenkisn ar gyrion y dre a'i llofruddio.
Awgrymodd fod olion bysedd person arall wedi eu darganfod yng nghartref y bensiynwraig.
Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth DNA yn anffaeledig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2011