Caniatâd ar gyfer archfarchnad i Landeilo

Mae cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio i gwmni Sainsbury's godi archfarchnad yn Llandeilo.

Roedd rhai ymgyrchwyr lleol yn gwrthwynebu'r cais gan ddweud y byddai'n niweidiol i siopau bach.

Cafodd y cais ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Iau.

Bwriad Sainsbury's yw codi adeilad 47,500 metr sgwâr, tua maint hanner cae pêl-droed.

Mae'r datblygiad yn cynnwys gorsaf betrol, safle ailgylchu a pheiriant twll yn y wal.

Mae dwy archfarchnad eisoes yn Llandeilo.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.