Myfyriwr i apelio yn erbyn dedfryd o garchar am sylwadau ar Twitter
- Cyhoeddwyd

Fe fydd apêl myfyriwr yn erbyn dedfryd o garchar am wneud sylwadau ffiaidd â chymhelliad hiliol ar wefan Twitter yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys yn Abertawe ddydd Gwener.
Ddydd Mawrth cafodd Liam Stacey, 21 oed o Bontypridd, ei garcharu am 56 niwrnod ar ôl cyfadde i wneud sylwadau ar y wefan am Fabrice Muamba.
Pe bai Stacey yn llwyddiannus yn ei apêl, fe fydd yn cael ei ryddhau yn syth.
Fe fydd yr apêl yn yr Uchel Lys o flaen y barnwr Mr Ustus Wyn Williams yn Llys y Goron Abertawe.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara tua awr.
Cafodd Stacey ei arestio wedi i ddefnyddwyr eraill y wefan ddweud wrth yr heddlu.
Daeth ei sylwadau ar ôl i bêl-droediwr Bolton Wanderers gael ei gludo i'r ysbyty wedi i'w galon stopio yn ystod y gêm rhwng Bolton a Tottenham Hotspur yn ystod gêm gogynderfynol Cwpan yr FA ar Fawrth 17.
Mae'r chwaraewr 23 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2012