BBC Cymru Fyw

Arwyddion maes parcio anghywir yng Nghonwy

Published
image copyrightOther
image captionMae'r gair modur wedi ei gamsillafu ar y maes parcio

Mae cyngor sir wedi addo cywiro arwyddion anghywir a gafodd eu peintio ar dir un o'u meysydd parcio.

image copyrightOther
image captionBysiau ddylai barcio yma ym Maes Parcio Morfa Bach

Cafodd maes parcio Morfa Bach yn Gyffin, ger Castell Conwy, ei ailwynebu yn ddiweddar yn barod ar gyfer tymor yr ymwelwyr.

Mae un arwydd yn dweud "beiciau modus" yn Gymraeg yn lle beiciau modur ac mae'r arwydd Saesneg am fysiau yn dweud "coashes" yn lle coaches.

"Rydym yn ymwybodol o'r camgymeriadau ac fe fyddan nhw'n cael eu cywiro," meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy.

Straeon perthnasol

  • Gwall iaith yn achosi penbleth