Gwyddonwyr yn darganfod tri thornado ar yr haul
- Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi darganfod tornados solar sydd sawl gwaith yn fwy na'r Ddaear ar wyneb yr haul.
Bydd Dr Xing Li a Dr Huw Morgan o'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn cyflwyno ffilm o un o'r tornados yn y Cyfarfod Astronomeg Cenedlaethol 2012 ym Manceinion ddydd Iau.
Canfuwyd y tornado solar trwy ddefnyddio'r Telesgop Ymgasgliad Delweddu Atmosfferig (AIA) ar fwrdd y lloeren NASA (SDO).
Allyriadau mas coronaidd
"Canfuwyd tornados solar llai gan fy lloeren SOHO i, ond ni ffilmiwyd hwynt," meddai Dr Xing Li.
Dywedodd Dr. Huw Morgan: "Mae'n rhaid bod y tornado unigryw a rhyfeddol hwn yn chwarae rôl wrth ddechrau stormydd solar bydol."
Gwelodd yr AIA nwyon oedd â thymheredd o 50,000 - 2,000,000 Kelvin yn cael eu sugno o wraidd strwythur dwys o'r enw Prominence, cyn troelli i fyny i mewn i'r atmosffer uchel a theithio oddeutu 200,000 cilomedr ar hyd llwybrau heligol am gyfnod o oddeutu tair awr.
Mae'r nwyon poeth yn y tornados yn teithio ar gyflymderau mor uchel â 300,000 cilomedr yr awr.
Gall cyflymderau nwyon mewn tornados daearol gyrraedd cyflymderau o 150 cilomedr yr awr.
Yn aml, bydd tornados yn digwydd wrth wraidd allyriadau mas coronaidd.
Cylchdaith gylchol
Pan deithiant tua'r Ddaear, gall yr allyriadau mas coronaidd hyn achosi cryn ddifrod i amgylchedd gofod y ddaear, neu i loerennau, neu hyd yn oed ddinistrio'r grid trydan.
Llusga'r tornados solar feysydd magnetig troellog a cheryntau trydanol i'r atmosffer uchel.
Mae'n bosib bod y meysydd magnetig a'r ceryntau yn chwarae rhan allweddol wrth yrru'r allyriadau mas coronaidd.
Lansiwyd yr SDO ym mis Chwefror 2010.
Mae'r lloeren yn cylchynu'r Ddaear mewn cylchdaith sy'n gydamserol â chylchdaith y Ddaear ar uchder o 36,000 cilomedr.
Monitra'r amrywiadau solar cyson yn barhaus er mwyn galluogi i wyddonwyr feithrin gwell dealltwriaeth am achos y newid ac, yn y pen draw, fedru darogan tywydd y gofod.
Straeon perthnasol
- 1 Tachwedd 2011
- 8 Mehefin 2004
- 9 Gorffennaf 2001