Canu yn Saesneg er mwyn ennill bywoliaeth?

  • Cyhoeddwyd
Phil Jones a Gai TomsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gai Toms (ar y dde) oedd enillydd Cân i Gymru 2012 gyda Phil Jones (ar y chwith)

Mae enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn ystyried troi at ganu yn Saesneg er mwyn ennill ei fara menyn.

Mewn cyfweliad oedd yn rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth Radio Wales, dywedodd Gai Toms ei bod hi'n mynd yn anoddach bob dydd i wneud bywoliaeth trwy'r Gymraeg yn unig.

Dywedodd bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers i'r corff sy'n rheoli breindaliadau - y PRS - newid y fformiwla sy'n penderfynu lefel taliadau'r llynedd.

Ychwanegodd y canwr a'r cyfansoddwr, oedd hefyd yn aelod o Anweledig a Mim Twm Llai, bod y newid wedi golygu gostyngiad sylweddol yn ei incwm.

'Dechrau o'r dechrau'

Dywedodd Gai Toms: "Oherwydd y trafferthion diweddar gyda'r PRS a'r newid fformiwla mae'r taliad PRS wedi mynd - wel 85% ohono.

"Cyn i hynny ddigwydd, dyna oedd yn penderfynnu fy llif arian ac unwaith i hwnnw ddiflannu mae'n anodd dros ben gwneud bywoliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Y dewis sydd gen i yw ceisio cael mwy o waith trwy gynnal gweithdai neu gyfansoddi i bobl eraill, neu ddechrau o'r dechrau a chanu trwy gyfrwng y Saesneg a gobeithio bod pobl yn eich licio chi.

"Mae anodd diffinio llwyddiant wrth ganu yn y Gymraeg yn unig, yn enwedig yn y sîn gerddorol.

"Unwaith i chi berfformio yn yr Eisteddfod neu ennill Cân i Gymru er enghraifft, rydych chi wedi cyrraedd copa'r sîn Gymraeg, ac un dewis yw canu mewn iaith arall - Saesneg er enghraifft - a cheisio'i 'gwneud hi' dros y ffin neu rannau eraill o Gymru nad ydych chi wedi llwyddo i gyrraedd trwy gyfrwng y Gymraeg."