Achub llinell gyswllt am flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
telephoneFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Ers ei sefydlu mae'r llinell gyswllt wedi derbyn tua 80,000 o alwadau

Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £35,000 er mwyn cadw gwasanaeth llinell gyswllt i fusnesau, elusennau a sefydliadau eraill.

Roedd pryderon y byddai'r gwasanaeth yn cael ei ddileu wrth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddod i ben ddydd Gwener.

Menter Môn oedd yn gwneud y gwaith drwy gytundeb gyda'r Bwrdd.

Roedd prif weithredwr y fenter wedi dweud mai ei fwriad oedd ceisio parhau gyda'r gwaith ond fel menter fasnachol.

'Adnodd gwerthfawr'

Dywedodd Mr Andrews: "Rydym wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.

"Hoffem weld rhagor o sefydliadau preifat a sefydliadau'r trydydd sector yn defnyddio'r Gymraeg a byddwn yn cynnig pob help iddyn nhw wneud hynny.

"Mae'r llinell gyswllt wedi bod yn adnodd gwerthfawr i fusnesau'r sector preifat a sefydliadau'r trydydd sector ar draws Cymru.

"Mae hyn wedi sicrhau bod mwy o Gymraeg mewn gwahanol fannau ac mae wedi ennyn llawer o ewyllys da.

"Mae hefyd wedi annog llawer o sefydliadau i roi cynnig ar ddefnyddio'r Gymraeg."

'Amhrisiadwy'

Dywedodd Cyfarwyddwr Menter Môn, Gerallt Llewelyn Jones: "Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi dyfarnu'r grant hwn fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu'r gwasanaeth pwysig yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

"Mae'r llinell gyswllt wedi cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i lawer o fusnesau a sefydliadau gwirfoddol sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg am y tro cyntaf.

"Byddwn yn mynd ati yn awr i ystyried sut y gall y gwasanaeth ddechrau ariannu ei hun yn y dyfodol."

Gall sefydliadau'r sector preifat a'r trydydd sector gysylltu â'r Llinell Gyswllt ar 0845 607 6070.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol