Cynllun i gryfhau'r diwydiant diodydd
- Cyhoeddwyd

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod am gryfhau ei chefnogaeth i'r diwydiant diodydd yng Nghymru trwy gyhoeddi cynllun gweithredu newydd.
Bydd y cynllun, sy'n ceisio cefnogi twf i'r dyfodol i'r diwydiant, yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol gan y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC.
Cafodd y ddogfen - Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwydiant Diodydd Cymru - ei chreu fel ymateb uniongyrchol i bryderon o fewn y diwydiant.
Bydd yn darparu arbenigedd penodol ar feysydd fel marchnata a brandio ynghyd â chyngor ar botensial allforio cynnyrch.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys canlyniadau ymchwil y farchnad ddiweddaraf i'r sector diodydd.
'Pwysigrwydd eithriadol'
Dywedodd Alun Davies: "Rwyf wrth fy modd i gael cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant diodydd ar ran Llywodraeth Cymru, a'n bod bellach mewn sefyllfa i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol cynaliadwy a phroffidiol i'r sector diodydd yng Nghymru.
"Rwy'n gwybod bod gan y diwydiant botensial mawr i dyfu, a gobeithio bydd y cynllun yma'n cynrychioli llais y sector yng Nghymru.
"Mae'r diwydiant bwyd a diod o bwysigrwydd eithriadol yn economaidd, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi a chryfhau'r sector."
Cafodd y cynllun gweithredu ei ddatblygu o ganlyniad i Uwchgynhadledd Diodydd Cymru a gynhaliwyd yn hydref y llynedd yn Aberystwyth a gyflwynwyd gan Mr Davies.
Casglwyd yr argymhellion a'r canfyddiadau allweddol o'r uwchgynhadledd er mwyn llunio'r cynllun gweithredu.
Straeon perthnasol
- 16 Hydref 2010
- 29 Rhagfyr 2010