'Cannoedd o swyddi' yn dod i Gaerdydd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd Firstsource, cwmni o'r India, yn creu "cannoedd o swyddi" yng Nghaerdydd.

Yn ei gynhadledd newyddion dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru yn helpu'r cwmni o Mumbai i ddod o hyd i leoliad addas.

Mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ym maes gofal iechyd, cyfathrebu, cyhoeddi, bancio, gwasanaethau ariannol ac yswiriant.

Bydd Y Prif Weinidog yn arwain dirprwyaeth fasnach i'r India mewn pythefnos.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.