Arestio tri ar ôl ymosodiad
- Cyhoeddwyd
Mae tri wedi cael eu harestio wedi ymosodiad difrifol ar ddyn lleol yn ei ugeiniau yn Llanrwst.
Roedd yr ymosodiad ychydig wedi 6pm ger y ganolfan ieuenctid nos Fawrth.
Mae'r dyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Walton, Lerpwl, oherwydd anafidau i'w ben ac mae ei gyflwr yn sefydlog.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sion Williams: "Rydyn ni am siarad ag unrhywun oedd yn yr ardal ar y pryd ."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800555111.