Gŵyl Jazz: Diwrnod cau i ddarpar hyrwyddwyr
- Cyhoeddwyd

Ddydd Gwener yw'r diwrnod olaf i ddarpar hyrwyddwyr gyflwyno eu cynlluniau i gynnal Gŵyl Jazz Aberhonddu eleni.
Fe ddaw hyn ar ôl i Ŵyl Y Gelli, a fu'n gyfrifol am gynnal yr ŵyl jazz er 2009, gyhoeddi eu bod yn dod â'r cysylltiad i ben y llynedd.
Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn penderfynu pwy fydd yn hyrwyddo'r ŵyl eleni.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf ym 1984 yn ystod mis Awst.
Trafferthion ariannol
Dros y blynyddoedd mae'r ŵyl wedi cael llwyddiant yn ogystal ag wynebu beirniadaeth.
Mae wedi denu rhai o brif enwau jazz y byd yn ogystal â rhoi llwyfan i artistiaid newydd.
Ond mae trafferthion ariannol wedi bod yn gysgod dros yr ŵyl.
Wedi i hyrwyddwyr yr ŵyl fynd i'r wal yn 2008 fe wnaeth Gŵyl y Gelli ddod i'r adwy a chynnal yr Ŵyl yn 2009, 2010 a 2011.
Dywedodd David Alston o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'r ŵyl wedi mynd i'r gwellt ddwywaith yn ystod y degawd diwethaf.
"Fe fyddai'n drychinebus pe bai problemau ariannol yn codi unwaith eto.
"Rydym am fod yn ymarferol ac rydym am ffordd resymol o fynd ati.
"Rydym am greu rhywbeth cyffrous eleni ond bydd y gweithredwr newydd dim ond yn gallu cael gwynt dan eu hadain ymhen blwyddyn neu ddwy."
Mae Gŵyl Ymylol Aberhonddu wedi ffynnu dros y blynyddoedd a bellach mae'r ŵyl honno wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad ar liwt ei hun.
Dywedodd David Brockwell, un o hyrwyddwyr yr ŵyl ymylol: "Rwyf am helpu pwy bynnag fydd yn cynnal yr Ŵyl Jazz i sicrhau bod yr ŵyl yn llwyddiannus.
"Mae gennym nifer o sgiliau a thalentau yn ein tref gall gael eu defnyddio i sicrhau llwyddiant yr ŵyl.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gobeithio enwi'r gweithredwr newydd erbyn diwedd mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2009
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2009
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2008