Traean o athrawon wedi diodde' trais
- Cyhoeddwyd

Ar drothwy eu cynhadledd flynyddol, mae undeb athrawon yr ATL wedi cyhoeddi ffigyrau 'brawychus' am drais yn erbyn athrawon gan ddisgyblion.
Yn ôl arolwg gan yr undeb, mae traean (33.1%) o staff ysgolion a cholegau wedi gorfod delio gyda rhyw fath o drais corfforol gan fyfyriwr neu ddisgybl yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.
Roedd chwarter y staff oedd wedi gorfod delio gyda digwyddiad treisgar yn dweud bod y weithred wedi ei hanelu atyn nhw, a chwarter arall yn dweud bod gweithred wedi ei hanelu at athro arall.
Ymhlith y digwyddiadau yr oedd staff wedi gorfod delio â nhw roedd achosion o wthio, taro a chicio.
Rhesymau
Dywedodd un aelod o staff ysgol uwchradd yng Nghymru: "Fe gefais fyfyriwr benywaidd yn bygwth cicio'r wên oddi ar fy wyneb, a hynny o flaen y dosbarth."
Roedd pryder ymhlith staff hefyd bod y sefyllfa'n gwaethygu gyda 57% o'r rhai a holwyd yn credu bod y sefyllfa wedi dirywio dros y pum mlynedd diwethaf.
Roedd cyfle i'r rhai wnaeth ymateb i'r arolwg fynegi barn am achosion ymddygiad drwg yn y dosbarth, ac roedd tri rheswm yn uchel ar y rhestr:-
- 73% yn beio diffyg delfryd ymddwyn positif yn y cartref;
- 63% yn beio methiant perthynas o fewn teuluoedd;
- 73% yn beio chwilio am sylw gan ddisgyblion eraill.
Roedd nifer hefyd yn dweud nad oedd lleiafswm ystyfnig o rieni yn fodlon derbyn cyfrifoldeb am ymddygiad eu plant.
'Dyletswydd'
Dywedodd cyfarwyddwr ATL Cymru, Dr Philip Dixon: "Mae'n gwbl annerbyniol bod traean o staff yn ein hysgolion a cholegau wedi dioddef o drais - ac mae'n frawychus bod y fath ymddygiad yn ymddangos fel ei fod yn gwaethygu.
"Rhaid i ni gael agwedd o beidio â dioddef unrhyw ymddygiad treisgar mewn ysgolion, a pheidio â derbyn unrhyw eithriadau nac esgusodion.
"Gyda phob hawl mae yna gyfrifoldeb. Rhaid i blant a rhieni sy'n 'gwybod eu hawliau' hefyd sylweddoli eu cyfrifoldeb tuag at eraill.
"Ni ddylai staff ysgol na'r mwyafrif llethol o ddisgyblion orfod diodde' ymddygiad arswydus y lleiafrif.
"Roedd ein haelodau yn dweud bod plant o gefndiroedd dosbarth canol yn gallu ymddwyn mor ddrwg â rhai o gefndiroedd mwy heriol.
"Trafferthion yn y cartre' yn aml sydd wrth wraidd ymddygiad drwg. Mae gan rieni ddyletswydd i'w plant a gweddill cymdeithas i fod yn ddelfrydau ymddygiad da sy'n arwain trwy esiampl."
Cafodd 814 o athrawon, darlithwyr, staff cefnogol ac arweinwyr ysgolion eu holi ar gyfer yr arolwg gan yr ATL yn ystod mis Mawrth 2012.
Bydd cynhadledd flynyddol yr undeb yn digwydd rhwng Ebrill 2-4 ym Manceinion.