Cyn-athrawes yn cael ei gwahardd rhag dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ddirprwy athrawes wedi ei gwahardd rhag dysgu mewn ysgolion sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol wedi iddi ddwyn £13,000 o glwb ar ôl ysgol.
Derbyniodd Susan England y gwaharddiad yn dilyn gwrandawiad o bwyllgor ymddygiad proffesiynol y Cyngor Addysgu Cyffredinol (CAC) yn Ewlo, Sir y Fflint.
Cyfaddefodd Mrs England o Brestatyn i saith gyhuddiad o dwyll yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Ebrill y llynedd lle cafodd ei dedfrydu i gyflawni gorchymyn cymunedol 12 mis.
Ni ymddangosodd Mrs England gerbron gwrandawiad y CAC ddydd Iau ond cafodd ei chynrychioli gan undeb yr NASUWT.
Iselder ysbryd
Bu Mrs England yn dysgu yn Ysgol Bro Carmel, ger Treffynnon am 35 mlynedd.
Canfu pwyllgor y CAC fod Mrs England yn euog o gamymddwyn proffesiynol annerbyniol am iddi gyfaddef yn y llys i gamddefnyddio ei swydd yn Ysgol Bro Carmel.
Mewn gwrandawiad elw troseddau ym mis Hydref y llynedd dyfarnodd barnwr y dylai Mrs England ad-dalu'r £13,000 neu wynebu wyth mis yn y carchar.
Ddydd Iau clywodd pwyllgor y CAC fod yr holl arian wedi ei ad-dalu.
Clywodd y gwrandawiad fod Mrs England, oedd yn drysorydd y clwb ar ôl ysgol, mewn dyled o £15,000 ac yn dioddef o iselder ysbryd yn dilyn marwolaeth ei gŵr pan ddechreuodd gymryd arian o'r clwb.
Penderfynodd y pwyllgor fod ei ymddygiad yn golygu na ddylai barhau i weithio fel athrawes
Dywedodd aelodau'r pwyllgor ei bod wedi dwyn anfri ar yr ysgol.