Uwch-goleg newydd yn dod i fodolaeth yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Bydd uwch-goleg newydd gwerth £70 miliwn yn dod i fodolaeth ddydd Llun ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo.
Rhoddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, sêl bendith yr wythnos diwethaf i'r amcanion i uno tri choleg yng ngogledd Cymru.
Wedi misoedd o gynllunio, bydd Grŵp Llandrillo Menai, sy'n cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor, yn dechrau gweithredu ddydd Llun Ebrill 2.
Bydd y Grŵp cysgodol newydd yn goruchwylio gweithgarwch y tri choleg, gan gwblhau proses a gychwynnodd ddwy flynedd yn ôl pan unodd Coleg Llandrillo Cymru â Choleg Meirion Dwyfor.
Cyfleusterau busnes
Bydd yr uno diweddaraf yn creu Sefydliad Addysg Bellach mwyaf Cymru ac un o'r colegau addysg bellach mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Bydd yn cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 34,000 o fyfyrwyr ar hyd a lled pedair sir, ar safleoedd o Ddinbych i Ddolgellau.
Bydd hefyd yn darparu cyfleusterau busnes ac ymchwil.
Dechreuodd y trafodaethau'r haf diwethaf, pan gyhoeddodd y cyrff llywodraethu eu bwriad i ddod ynghyd i ffurfio'r grŵp.
Ar ôl ymgynghori â myfyrwyr, staff a chymunedau'r rhanbarth, cyflwynwyd cynlluniau manwl i Lywodraeth Cymru cyn y Nadolig.
Glyn Jones fydd Prif Weithredwr y grŵp, ac fe fydd yn cael cymorth tîm o reolwyr gweithredol a fydd yn cynnwys penaethiaid y tri choleg: Dr Ian Rees yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dafydd Evans yng Ngholeg Menai a Jackie Doodson yng Ngholeg Llandrillo.
Cwricwlwm ehangach
Yn ychwanegol atyn nhw, ceir dau gyfarwyddwr gweithredol.
Bydd Kath Coughlin yn arwain Gwasanaethau Corfforaethol y Grŵp cyfan, a bydd Linda Wyn yn arwain y Gwasanaethau Academaidd.
Bydd Grŵp Llandrillo Menai yn hoelio ei sylw ar ddarparu sgiliau a fydd yn sicrhau cystadleuaeth a llwyddiant yn economi gogledd Cymru, drwy gynyddu'r cyfleoedd wrth gynnig cwricwlwm ehangach a gwella'r cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu a symud ymlaen.
Bydd y cyfleoedd ychwanegol i astudio ar lefel brifysgol yn galluogi ieuenctid a dysgwyr aeddfed i astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser ar gyfer graddau a chymwysterau proffesiynol heb orfod gadael eu bröydd, gan arbed rhai miloedd o bunnau wrth wneud hynny.
Mae 'na fwriad hefyd i sefydlu Canolfan Brifysgol newydd yng Ngholeg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn sgil cynghrair strategol a sefydlwyd yn ddiweddar gyda Phrifysgol Bangor.
"Mae'r darnau i gyd yn syrthio i'w lle rŵan ac mae yna daith gyffrous yn dechrau," meddai Glyn Jones.
"Bydd creu'r grŵp yn newyddion da i fyfyrwyr, i gyflogwyr ac i'n cymunedau.
"Wrth sefydlu strwythur grŵp, byddwn yn adeiladu ar lwyddiannau'r colegau presennol drwy ehangu cyfleoedd, meithrin arbenigedd a buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf.
"Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uchel i weithio gyda phartneriaid er mwyn gallu cyfrannu'n sylweddol i lwyddiant yr economi leol.
"Ein bwriad hefyd yw rhannu arferion da mewn meysydd allweddol fel addysg a hyfforddiant dwyieithog, gan roi profiadau ardderchog i'n holl fyfyrwyr - pa fath bynnag o ddarpariaeth y byddan nhw'n ei dewis."
Straeon perthnasol
- 10 Rhagfyr 2011
- 1 Ebrill 2010