Ffordd yn dal ar gau wedi i yrrwr lori farw mewn gwrthdrawiad

Damwain lori Image copyright Other
Image caption Mae ffordd yr A40 wedi bod ar gau drwy'r dydd

Mae gyrrwr lori wedi marw a dau yrrwr lori arall wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin fore Gwener.

Cafwyd gwrthdrawiad rhwng tair lori ar fryn Pengawse ger Hendy-gwyn ar Daf.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod offer hydrolig arbennig wedi ei ddefnyddio i dorri un person yn rhydd.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio i'r A477 i Gilgeti a'r A478 trwy Arberth.

Does dim disgwyl i'r ffordd ail agor tan hanner nos, nos Wener.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.