Llofruddiaeth: Gwobr £50,000

  • Cyhoeddwyd
Llywelyn ThomasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Llywelyn Thomas yn ffermio ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl

Mae gwobr o hyd at £50,000 ar gael am wybodaeth ynghylch llofruddiaeth ffermwr o Gymru.

Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref yn Chittering, Sir Gaergrawnt ar Ragfyr 18.

Mae'r heddlu yn Sir Caergrawnt yn credu bod Mr Thomas, 76 oed, wedi cael ei ladd wrth i rywun geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.

Cynigir y wobr gan deulu Mr Thomas (£20,000), Taclo'r Taclau (£10,000) a heddlu yn Sir Caergrawnt (£20,000).

Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu â nhw.

"Gall unrhyw wybodaeth, hyd yn oed os yw'n swnio'n bitw neu yn amherthnasol, fod yn holl bwysig wrth ddod o hyd i'r sawl wnaeth hyn," meddai'r ditectif brif arolygydd George Barr.

Cafodd car Rover arian Mr Thomas gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn o'i gartref a chafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt, pentref Milton.

Roedd yna nam peirianyddol ar y car, a doedd dim modd ei yrru'n gyflym, meddai'r heddlu.

Cyflymdra

"Fe fyddai'r ffyrdd wedi bod yn brysur a byddai rhywun yn sicr o fod wedi sylwi'r car yma yn teithio ar gyflymdra araf," meddai'r ditectif brif arolygydd George Barr.

Dywed yr heddlu fod tair oriawr - Seiko Bell-Matic, Tag Heuer a chopi o oriawr Breitling wedi eu dwyn o gartref Mr Thomas.

Canlyniad archwiliad post mortem oedd iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.

Cafodd Mr Thomas ei eni ar gyrion Caerdydd ac roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.

Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.

Mae dyn 22 oed a dynes 21 wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth fel rhan o'r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Taclau ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol