Hanner Cymru yn gwylio'r Gamp Lawn
- Cyhoeddwyd

Fe welodd bron hanner poblogaeth Cymru fuddugoliaeth y tîm rygbi cenedlaethol yn cipio'r Gamp Lawn ar y teledu, yn ôl ffigyrau'r BBC.
Fe wyliodd miliwn o bobl y gêm ar y BBC - y gynulleidfa uchaf yng Nghymru mewn dwy flynedd - ac fe welodd 400,000 arall yr uchafbwyntiau yn ddiweddarach y penwythnos hwnnw.
Dangosodd arolwg gan BBC Cymru bod 300,000 arall wedi gwylio'r gêm mewn tafarn neu glwb.
Dywedodd y BBC bod y ffigyrau yn dangos angerdd y Cymry at rygbi.
800,000
Ar gyfartaledd, fe wyliodd 800,000 o bobl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda'r gynulleidfa ar gyfer rhannau olaf bob un o bum gêm Cymru yr uchaf erioed am y bencampwriaeth.
Dangosodd arolwg gan gwmni Beaufort Research bod chwarter yr oedolion dan 35 oed yng Nghymru wedi gwylio Cymru'n ennill y Gamp Lawn am y trydydd tro ers 2005 mewn bar neu glwb, gyda dwywaith cymaint o ddynion na merched yn gwylio'r gêm mewn lle felly.
Ond mewn lleoedd eraill roedd y gynulleidfa yn hanner a hanner rhwng merched a dynion.
Dywedodd pennaeth marchnata, cyfathrebu a chynulleidfaoedd BBC Cymru, Richard Thomas:
"Rydym yn gwybod bod archwaeth y gynulleidfa am rygbi yng Nghymru yn enfawr, ond mae'r ffigyrau yma'n dangos pa mor angerddol y mae pobl Cymru am eu rygbi.
"Rydym yn falch o fod wedi medru darparu ymdriniaeth dreiddgar a thrylwyr o'r digwyddiad chwaraeon mawr hwn i gymaint o bobl ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- 19 Mawrth 2012
- 20 Mawrth 2012
- 18 Mawrth 2012
- 17 Mawrth 2012