Ffeinal cyntaf ers 108 o flynyddoedd?

  • Cyhoeddwyd
Llanelli win the 2011 Welsh CupFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Llanelli yn dathlu curo Bangor o 4-1 yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2011

Bydd dau dîm yn ceisio cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes ddydd Sadwrn.

Mae un arall o'r pedwar sydd yn y rownd gynderfynol yn ceisio mynd i'r ffeinal am y tro cyntaf ers dros ganrif.

Collodd Derwyddon Cefn i Wrecsam yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn 1878 - y gyntaf erioed - ac maen nhw wedi ennill y gwpan wyth gwaith ers hynny.

Maen nhw'n wynebu Airbus UK Brychdyn yn y Rhyl ddydd Sadwrn yn y gobaith o fod y tîm cyntaf o'r tu allan i'r brif adran i fynd i'r rownd derfynol ers Lido Afan yn 2007.

Roedd y Derwyddon, sy'n chwarae yng Nghyngres Cymru, yn y gêm gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth pan chwaraeon nhw yn erbyn Y Drenewydd yn Hydref 1877.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Greg Draper yn dathlu wrth sgorio unig gôl y gêm i Seland Newydd yn erbyn Fiji

Arwr rhyngwladol

Nid yw Airbus UK Brychdyn wedi cyrraedd y rownd derfynol erioed yn eu hanes cymharol fyr, ac mae'r un peth yn wir am Y Bala.

Fe fyddan nhw'n teithio i Aberystwyth i gwrdd â'r Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol arall ddydd Sadwrn, ac fe fydd yn Seintiau yn croesawu arwr rhyngwladol yn ôl i'w rhengoedd.

Nid oedd eu prif sgoriwr, Greg Draper, ar gael y penwythnos diwethaf. Fe gafodd yr ymosodwr ei alw i mewn i garfan dan-23 Seland Newydd wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y gystadleuaeth bêl-droed Olympaidd yn Llundain yn yr haf.

A llwyddodd Draper i sgorio unig gôl y gêm wrth i Seland Newydd sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Fiji.

Yn ei absenoldeb, llwyddodd y Seintiau i agor bwlch ar frig Uwchgynghrair Cymru, ac fe fyddan nhw'n ceisio ennill y dwbl drwy ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 2005.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol