MI6: 'Anodd os nad yn amhosib iddo gloi'r bag '

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd corff y dyn 31 oed wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath

Prif ffocws y gwrandawiad cyntaf cyn cynnal cwest i farwolaeth Gareth Williams o Ynys Môn yw a oedd yn bosib iddo gloi ei hun mewn bag chwaraeon.

Bu farw Mr Williams mewn amgylchiadau amheus yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010,

Mae llys crwner Westminster yn clywed ddydd Gwener am y dystiolaeth sy'n bodoli cyn i'r cwest gychwyn ddiwedd Ebrill.

Roedd corff y dyn 31 oed wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23 2010.

Clywodd y llys bod dau arbenigwr o'r farn y byddai wedi bod yn "anodd iawn, os nad yn amhosib" iddo gloi'r bag ei hun, meddai cyfreithiwr Heddlu'r Met, Vincent Williams.

Clywodd y llys hefyd mai amherthnasol oedd ceisio olrhain dyn a menyw o dras gwledydd Môr y Canoldir.

Pydredig

Dywedodd y cyfreithiwr Anthony O'Toole, wrth gynrychioli teulu Mr Williams, bod yr archwiliad post mortem ar Gareth Williams yn aneffeithiol gan fod ei gorff mor bydredig.

Dywedodd Mr O'Toole bod y teulu o'r farn bod marwolaeth Gareth wedi bod yn ganlyniad i rywun "yn arbenigo yn agweddau tywyll o'r gwasanaethau cudd".

Awgrymodd y gallai tystiolaeth fod wedi ei chymryd o'r fflat, gan nad oedd tystiolaeth DNA, olion bysedd nag unrhyw arwydd o fynediad cudd.

Dywedodd Mr O'Toole y gallai Mr Williams "fod yn weithgar" fel asiant hyd at bum mis cyn ei farwolaeth.

"Er mwyn gwybod yn iawn am amgylchiadau'r farwolaeth, mae angen i ni wybod beth oedd gwaith yr ymadawedig".

Ychwanegodd Mr O'Toole bod perthnasau am wybod pam na fynegwyd pryderon pan fethodd Mr Williams â throi i fyny i'r gwaith.

Erbyn i swyddogion gyrraedd ei fflat, roedd ei gorff wedi pydru cymaint yr oedd tystiolaeth wedi ei cholli.

DNA

Datgelodd yr uwch swyddog ymchwiliadol Jacqueline Sebire bod problemau wedi codi gyda'r dystiolaeth DNA.

Cafodd sampl DNA oddi ar law Gareth Williams ei lygru gan wyddonwyr ar y safle.

Dywedodd cwmni LGC bod un o'i gwyddonwyr fforensig hefyd wedi gwneud "gwall teipograffyddol" wrth nodi côd, gan beri i Scotland Yard dreulio dros flwyddyn yn ceisio olrhain rhywun nad oedd yn bodoli.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn ymddiheuro am unrhyw boen y mae'r camgymeriad wedi achosi i deulu Mr Williams."

Galwodd y crwner Fiona Wilcox am ymchwiliad i'r "camgymeriad" DNA.

Ychwanegodd Dr Wilcox bod penderfynnu a fu Mr Williams yn fyw y tu mewn i'r bag yn allweddol.

Clywodd y llys hefyd y gallai Mr Williams fod wedi marw ar ôl anadlu gormod o garbon deuocsid.

Roedd Mr Williams yn gweithio fel swyddog cyfathrebu yng Nghanolfan Glustfeinio'r Llywodraeth yn Cheltenham ond roedd wedi cael secondiad i MI6.

Graddiodd Mr Williams gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor yn 17 oed ar ôl astudio ar gyfer ei radd tra'n ddisgybl ysgol.