Comisiwn y Cynulliad yn lansio cynllun cydraddoldeb
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio Cynllun Cydraddoldeb pedair blynedd.
Bydd y cynllun newydd yn dod â Chomisiwn y Cynulliad yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Dywed Comisiwn y Cynulliad fod y cynllun newydd yn adeiladu ar y "cynnydd sylweddol" sydd wedi ei wneud o dan eu cynllun cydraddoldeb blaenorol.
Cafodd y cynllun ei ddatblygu wedi ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2011.
'Creu corff hygyrch'
Pedwar amcan blaenoriaeth y cynllun newydd yw:
- Annog ac ehangu ymgysylltiad cyhoeddus;
- Datblygu Comisiwn y Cynulliad ymhellach fel cyflogwr cyfle cyfartal;
- Cefnogi a darparu gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad a'u staff;
- Gwneud cydraddoldeb yn rhan annatod o reolaeth y sefydliad.
"Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad enghreifftiol yn ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a pharchu hawliau dynol," meddai Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb.
"Credwn fod cyfle cyfartal i bawb yn hawl dynol sylfaenol ac awn ati i wrthwynebu pob ffurf ar gamwahaniaethu.
"Felly, rydym yn ymdrechu i greu corff seneddol hygyrch, sy'n ymgysylltu â holl bobl Cymru ac yn eu parchu."
Mae'r cynllun wedi'i seilio ar i staff y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd allu disgwyl y bydd Comisiwn y Cynulliad yn:
- Hybu, parchu a gwerthfawrogi cyfle cyfartal ac amrywiaeth;
- Herio a dileu aflonyddu a chamwahaniaethu;
- Cydnabod a mynd i'r afael â rhwystrau i gydraddoldeb, mynediad a chyfranogiad;
- Ymddwyn fel sefydliad sy'n esiampl o gyflogwr da a darparwr gwasanaeth hygyrch;
- Anelu at sicrhau bod y gweithlu'n gynrychioliadol o gymdeithas amrywiol;
- Annog ac ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad ledled Cymru; a
- Hybu agweddau cadarnhaol a pherthnasedd da rhwng gwahanol grwpiau o bobl.
Bydd y Cynllun Cydraddoldeb yn rhedeg o Ebrill 2012 tan ddiwedd tymor y Cynulliad yn 2016, a bydd yn cael ei adolygu wedi hynny.
Bob mis Ebrill, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a fydd yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r amcanion.
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2010