Rhybudd undebau am wyliau i blant yn ystod y tymor

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn sefyll arholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llywodraeth yn ystyried absenoldeb yn fater difrifol

Mae 'na rybudd i rieni yng Nghymru y gallai fod yn llawer anoddach i blant gael mynd ar wyliau yn ystod y tymor ysgol.

Dywedodd undeb prifathrawon, NAHT Cymru, bod ymateb "llymach" yn arwain at fwy o wrthod ceisiadau.

Mae presenoldeb yn cael ei ystyried wrth i ysgolion uwchradd gael eu brandio gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu ymdrechion awdurdodau lleol i leihau nifer y rhieni sy'n mynd a'u plant ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.

Fe wnaeth un cyngor lansio ymgyrch i leihau nifer yr absenoldebau ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod disgybl ar gyfartaledd yn colli blwyddyn o ysgol yn ystod eu cyfnod o 12 mlynedd.

Dywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, bod y canllawiau llymach yn eu lle ac yn sylfaenol does ganddyn nhw ddim gwrthwynebiad gan fod rhaid i'r disgyblion fod yn yr ysgol.

Gwrthwynebiad

"Yr hyn mae'n ei olygu yw bod penaethiaid sydd wedi bod yn caniatáu hyn yn y gorffennol yn fwy cyfyng i wneud hyn a allai arwain at drafodaethau anodd gyda rhieni yn y dyfodol.

"Fe fydd rhai rhieni yn ei chael yn anodd derbyn gwrthwynebiad.

Disgrifiad o’r llun,
Cost gwyliau yn ystod y tymor sy'n dennu nifer o rieni

"Dydi'r caniatâd ddim yn cael ei roi ar chwarae bach nawr."

Mae athrawon ac undebau yn dweud bod rhieni sy'n cymryd y plant allan o'r ysgol yn ystod y tymor yn peryglu cael effaith negyddol ar addysg y plant.

Maen nhw hefyd yn deall y pwysau ariannol ar rieni a bod ymweld â gwlad dramor yn gallu bod yn addysgiadol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gobeithio gwella nifer presenoldeb y disgyblion.

Mae gan un ysgol uwchradd, Ysgol Gyfun Treorci yn Y Rhondda bresenoldeb o 93.5%.

Mae colli 10 niwrnod o waith yn 50 gwers ac yn 50 awr o waith.

Dros y flwyddyn

Dywed y cyngor fod presenoldeb uchel disgyblion yn fwy tebygol o'u gweld yn llwyddo mewn arholiadau.

Yn ôl polisi Llywodraeth Cymru, ddylai rhieni ddim cymryd plant ar wyliau yn ystod tymor ysgol, ond mae gan ysgolion le i fod yn hyblyg gyda 10 diwrnod o absenoldeb wedi ei awdurdodi ar gyfer y pwrpas yma.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llywodraeth yn ystyried absenoldeb yn fater difrifol

Fe ddylai'r diwrnodau fod wedi eu gwasgaru dros y flwyddyn ysgol.

Dywedodd un rhiant o Gaerdydd, Huw Williams, sydd wedi mynd a'i blant ar wyliau sgïo yn ystod y tymor yn y gorffennol, fod rhaid ystyried y ceisiadau yn unigol ac o dan rai amgylchiadau.

"Dwi ddim yn meddwl fyddwn i am eu cymryd o'r ysgol ar ôl blwyddyn Pump neu Chwech gan eu bod yn gallu colli gwersi allweddol.

"Efallai y dylai'r nifer o ddyddiau ostwng i bump ar ôl rhyw oedran penodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol