Tragfeydd ar draffordd yr M4 wedi damwain

  • Cyhoeddwyd

Mae tagfeydd ar draffordd yr M4 wedi damwain.

Cafodd y draffordd i'r ddau gyfeiriad ei chau am gyfnod rhwng Cyffordd 35 (Pencoed) a Chyffordd 34 (Meisgyn) wedi'r ddamwain a ddigwyddodd am 5.10pm.

Ond tua 6.30pm cafodd y draffodd ei hagor ac eithrio un lôn i'r dwyrain.

Mae traffig yn araf iawn yn yr ardal o ganlyniad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i gar droi drosodd ac roedd carafán hefyd wedi troi drosodd.

Fe wnaeth yr ambiwlans awyr lanio ar y draffordd cyn cludo un person i'r ysbyty.

Bu gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, gan gynnwys carafán ddydd Gwener, yn ôl yr heddlu.