Carreg wedi ei ddwyn o eglwys
- Cyhoeddwyd

Roedd y garreg â cherfiadau nodedig arni
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i garreg addurnol o'r 13eg Ganrif gael ei dwyn o eglwys.
Aed â'r garreg nodedig o alcof yn Eglwys San Nicholas yn Y Grysmwnt, Y Fenni unai ddydd Mawrth neu ddydd Mercher.
Mae 'na gerfiadau o'r Forwyn Fair a phlentyn a'r Groes ar y garreg.
Roedd y garreg wedi ei diogelu ar stand metel sydd hefyd wedi ei ddwyn.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth neu a welodd unrhyw beth amheus fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol