Apêl mam gollodd ferch a gafodd ei gwenwyno gan nwy carbon monocsid
- Cyhoeddwyd

Mae mam merch yn ei harddegau fu farw wedi iddi gael ei gwenwyno gan nwy carbon monocsid yn annog pobl i brynu larwm carbon monocsid ar gyfer eu cartrefi.
Daeth Anne Mitchell o Gasnewydd adref ar Ddydd Gwener y Groglith ym mis Mawrth 2005 i ddarganfod bod ei merch 14 oed, Alex, wedi cwympo.
Fe wnaeth y nwy ddianc o le tân nad oedd wedi ei osod yn gywir.
Fe ddaw apêl Mrs Mitchell wrth i adroddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddatgan y dylai canfodyddion carbon monocsid gael eu gosod ym mhob cartref newydd ym Mhrydain.
Dywedodd Mrs Mitchell, nad oedd yn gwybod nad oedd ei gosodwr nwy wedi ei gymhwyso ar gyfer y gwaith.
"Dylai'r canfodyddion fod yn orfodol," meddai.
Cafodd y dyn a gyflawnodd y gwaith yng nghartref Mrs Mitchell yng Nghwmbrân, Torfaen, ei garcharu.
Ers hynny mae Mrs Mitchell wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ynghylch peryglon gwenwyno carbon monocsid a'r peryglon o ddefnyddio gosodwyr nwy sydd heb eu cymhwyso i wneud y gwaith.
Daeth Cofrestr Diogelwch Nwy i rym yn lle cynllun cofrestru Corgi ar gyfer gosodwyr nwy ar Ebrill 1 2009.
Rhywbeth yn bod
Dywed y sefydliad bod 10 o bobl wedi marw y llynedd o ganlyniad i achosion yn ymwneud â nwy a bod 330 o bobl wedi eu hanafu.
"Nid yw'r Pasg yn meddwl dim i mi yn awr," meddai Mrs Mitchell.
"Pan nes i gyrraedd adref roedd fy nghi yn farw yn y cyntedd a fy merch yn farw ar lawr ei hystafell wely.
"Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth yn bod â'r tân.
"Cafodd ei droi ymlaen ond roedd y fflam wedi diffodd.
"Dwi ddim am i neb ddioddef y fath brofiad.
"Doed dim digon o wybodaeth ar gael. Dyw pobl ddim yn ymwybodol o'r broblem."
Ychwanegodd y byddai wedi prynu canfodydd nwy pe bai'r gosodwr nwy wedi crybwyll y syniad.
"Mae'r canfodydd yno i'ch amddiffyn. Bydd yn canfod y nwy," meddai.
Dywedodd Cofrestr Diogelwch Nwy (CDN) fod saith gosodwr nwy anghyfreithlon wedi eu carcharu a bod 2,000 o osodwyr ffug wedi cael eu hymchwilio ers Ebrill 2009.
Mewn datganiad, dywedodd CDN: "Mae ymchwil yn dangos bod y cyhoedd yn rhy ymddiriedus o fasnachwyr a bod un o bob tri pherson yn ymddiried yn fasnachwr i weithio ar eu tanau nwy yn dilyn cymeradwyaeth gan bobl eraill yn unig."
Dywedodd Clive Betts, AS a chadeirydd Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU y dylai'r Llywodraeth oruchwylio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch gwenwyno carbon monocsid gan sefydliadau'r diwydiant.
"Dylid sicrhau bod pobl yn sylweddoli mai nhw sy'n atebol am osodiadau nwy a thrydan diffygiol ac mai nhw sy'n gyfrifol am eu hatgyweirio."
Straeon perthnasol
- 6 Ionawr 2012
- 18 Mawrth 2011