Rabo Direct Pro12: Tair rhanbarth yn colli nos Wener
- Cyhoeddwyd

Glasgow 31-3 Gleision
Cafodd Glasgow fuddugoliaeth hawdd yn erbyn y Gleision ar faes Firhill nos Wener.
Ryan Wilson sgoriodd cais cynta'r ornest a llwyddodd Duncan Weir gyda'r trosiad.
Roedd y tîm cartref 10-0 ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn cic gosb gan Weir.
Sgoriodd Wilson ei ail gais yn ystod munudau agoriadol yr ail hanner cyn i Chris Fusaro a Colin Shaw dirio gan sicrhau pwynt bonws i Glasgow.
Llwyddodd Leigh Halfpenny gydag un gic gosb i'r Gleision.
Glasgow:Stuart Hogg; Federico Aramburu, Alex Dunbar, Graeme Morrison, Tommy Seymour; Duncan Weir, Chris Cusiter; Ryan Grant, Dougie Hall, Mike Cusack, Tom Ryder, Al Kellock (capt), Rob Harley, Chris Fusaro, Ryan Wilson.
Eilyddion: Pat MacArthur, Jon Welsh, Moray Low, Richie Gray, John Barclay, Henry Pyrgos, Ruaridh Jackson, Peter Murchie.
Gleision: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert; Casey Laulala, Jamie Roberts; Tom James; Ceri Sweeney, Lloyd Williams; John Yapp, Ryan Tyrrell, Scott Andrews, Bradley Davies (capt), James Down, Macauley Cook, Josh Navidi., Mamma Moitika.
Eilyddion: Marc Breeze, Nathan Trevett, Sam Hobbs, Cory Hill, Kristian Dacey, Richie Rees, Gavin Henson, Dafydd Hewitt.
Dyfarnwr: George Clancy (Iwerddon)
Caeredin26-23Scarlets
Curodd Caeredin y Scarlets nos Wener gan osgoi colli wyth gêm o'r bron yng nghystadleuaeth RaboDirect Pro12 y tymor hwn.
Dave Denton sgoriodd gais cyntaf Caeredin hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf a gwnaeth cais cosb sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen o 20-6 ar yr egwyl.
Bu'n rhaid i'r Scarlets chwarae gyda 13 dyn am gyfnod wedi i Matthew Rees a Deacon Manu gael eu gyrru i'r gell cosbi.
Methodd Caeredin â manteisio ar y cyfle hwn a daeth yr ymwelwyr yn gyfartal yn dilyn ceisiau gan Andy Fenby a Jon Davies.
Ond roedd cic gosb yn hwyr yn y gêm gan Greig Laidlaw yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i Gaeredin.
Caeredin: Tom Brown; Lee Jones, Nick De Luca, Matt Scott, Tim Visser; Greig Laidlaw (capt), Mike Blair; Allan Jacobsen, Ross Ford, Geoff Cross, Grant Gilchrist, Sean Cox, David Denton, Ross Rennie, Stuart McInally.
Eilyddion: Andrew Kelly, Kyle Traynor, Jack Gilding, Esteban Lozada, Roddy Grant, Chris Leck, Phil Godman, Jim Thompson.
Scarlets: Liam Williams; George North, Gareth Maule, Jon Davies, Andy Fenby; Rhys Priestland, Gareth Davies; Rhodri Jones, Matthew Rees (capt), Deacon Manu, Sione Timani, Dominic Day, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy.
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Peter Edwards, Damian Welch, Mat Gilbert, Liam Davies, Stephen Jones, Sean Lamont.
Dyfarnwr:Peter Fitzgibbon (Iwerddon)
Dreigiau 19-27 Connacht
Tiriodd yr asgellwr o Tonga ddwywaith i Connacht ar faes Rodney Parade gan sicrhau dim ond ail fuddugoliaeth yr ymwelwyr yng Nghymru er 2004.
Sgoriodd Toby Faletau, gafodd ei eni yn Tonga, unig gais y Dreigiau.
Hwn oedd dim ond pumed fuddugoliaeth Connacht yng nghystadleuaeth Rabo Direct Pro12 y tymor hwn.
Ciciodd maswr Connacht, Miah Nikora, 17 pwynt a Joe Bedford a Lewis Robling giciodd weddill pwyntiau'r Dreigiau.
Dreigiau: Will Harries; Tonderai Chavanga, Andy Tuilagi, Ashley Smith, Aled Brew; Lewis Robling, Wayne Evans; Phil Price, Steve Jones, Nathan Buck, Luke Charteris (capt), Rob Sidoli, Dan Lydiate, Jevon Groves, Toby Faletau
Eilyddion: Sam Parry, Nathan Williams, Dan Way, Lewis Evans, Tom Brown, Joe Bedford, Adam Hughes, Steffan Jones
Connacht: Gavin Duffy; Fetu'u Vainikolo, Kyle Tonetti, Henry Fa'afili, Tiernan O'Halloran; Miah Nikora, Frank Murphy; Brett Wilkinson, Ethienne Reynecke, Ronan Loughney; Michael Swift, Mike McCarthy; Mick Kearney, Ray Ofisa, John Muldoon.
Eilyddion: Adrian Flavin, Finlay Bealham, Rodney Ah You, Eoin McKeon, Eoghan Grace, Paul O'Donohoe, Matthew Jarvis, Dave McSharry
Dyfarnwr: Giuseppe Vivarini (Ffrainc)