Golff: Jamie Donaldson yn gydradd gyntaf
- Cyhoeddwyd

Mae Jamie Donaldson yn gydradd gyntaf yn dilyn ail rownd Pencampwriaeth Agored Sisili.
Mae Donaldson yn un o chwe chystadleuydd gyda chyfanswm o 136 ergyd, wyth ergyd yn well na'r safon.
Mae Cymro arall, Phillip Price, bedair ergyd y tu ôl i'r rheiny sydd ar y brig ac yn debygol o gymhwyso ar gyfer y drydedd rownd ddydd Sadwrn.
Ond nid yw Stephen Dodd na Rhys Davies yn debygol o ymuno ag ef yn dilyn rownd siomedig gan Dodd ddydd Iau a rownd siomedig gan Davies ddydd Gwener.
Pencampwriaeth Agored Sisili :-
=1. Jamie Donaldson (Cymru) = -8 (65,71)
=1.David Lynn (Lloegr) = -8 (67,69)
=1.Peter Lawrie (Iwerddon) = -8 (64,72)
=1.Pelle Edberg (Sweden) = -8 (70,66)
=1.Maarten Lafeber (Iseldiroedd) = -8 (68,68)
=1.Simon Wakefield (Lloegr) = -8 (69,67)
Gweddill y Cymry
=40. Phillip Price = -4 (70,70)
=66. Stephen Dodd =-2 (74,68)
=109. Rhys Davies = +2 (72,74)
Straeon perthnasol
- 24 Mawrth 2012