Norofirws yw achos tebygol salwch mewn ysgol yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad i achos o salwch stumog mewn ysgol yng Ngheredigion wedi dod i'r casgliad mai'r achos tebygol yw'r norofirws.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Ceredigion wedi bod yn ymchwilio i achosion o ddolur rhydd a salwch yn Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan.
Ers dechrau mis Mawrth mae 180 o ddisgyblion a 16 o staff wedi eu taro'n wael.
Yr wythnos diwethaf fe wnaed cais i holl ddisgyblion yr ysgol, 368 o blant, a'r 56 o staff ddarparu samplau os ydyn nhw'n datblygu symptomau.
Mae 10 prawf wedi profi'n bositif i norofirws.
Doedd na ddim prawf pendant am haint arall.
Mae'r cyngor sir a Dŵr Cymru hefyd wedi cynnal profion ar safle'r ysgol a does 'na ddim arwyddion am achos y salwch.
Profion
Fe wnaeth yr ysgol gau am wyliau'r Pasg ddydd Gwener.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i staff a rhieni'r ysgol sydd wedi cyd-weithio gyda ni yn ystod yr ymchwiliad," meddai Dr Jörg Hoffmann, Ymgynghorydd rheoli clefydau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Yn ogystal â darparu poteli samplau mae holiaduron wedi eu casglu gyda gwybodaeth o ble mae'r plant wedi bod a'r hyn sydd wedi ei fwyta cyn mynd yn sâl.
"Rydym wedi derbyn dros 300 ohonyn nhw yn ôl.
"Fe fydd y wybodaeth yma a'r samplau microbiolegol a samplau amgylcheddol yn ein harwain ni i gredu mai achos y salwch yw norofirws.
"Rydym yn obeithiol bod yr achosion yn dod i ben ac mai ychydig iawn o achosion newydd sydd wedi eu nodi yn ystod y dyddiau diwethaf."
Ychwanegodd ei fod yn obeithiol na fydd 'na achosion newydd dros Wyliau'r Pasg.
Prif symptomau norofirws yw teimlo'n gyfoglyd yn sydyn, poen stumog ac yna chwydu "hyrddiol" drwg a/neu ddolur rhydd.
Efallai hefyd y bydd ychydig o wres, cur pen, cramp yn y stumog a breichiau a choesau poenus.
Fel arfer bydd y symptomau'n dechrau rhwng 12 - 48 awr wedi i'r unigolyn ddal yr haint.
Dylai unrhyw un sy'n poeni gysylltu â'r meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
Straeon perthnasol
- 23 Mawrth 2012